Mewn Llun: Sioe Flodau'r RHS yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunFydd 'na amrywiaeth o liwiau i'w weld yn y sioe flodau sy'n cael ei gynnal ym Mharc Biwt Caerdydd o ddydd Gwener tan ddydd Sul.
disgrifiad o’r llunMae un o'r gerddi yn dangos y budd amgylcheddol a phersonol o deithio ar y tren. Cafodd yr ardd ei chynllunio a'i adeiladu gan Goleg Pen-y-Bont ar Ogwr
disgrifiad o’r llunCafodd ysgolion o Gaerdydd a Bro Morgannwg gyfle i gyflwyno berfa i'r arddangosfa. Fe wnaeth nifer ddewis y Gemau Olympaidd fel thema fe Ysgol Glan Ceubal Caerdydd sy'n dangos ymdrechion Tom Daley yn y pwll nofio
disgrifiad o’r llunDyma ymdrech Ysgol Gynradd Radyr ar lwyddiant tîm rygbi Cymru yn ennill y Grand Slam eleni
disgrifiad o’r llunNid blodau yn unig sydd yn yr arddangosfa ond mae 'na gerfluniau a phlanhigion i'w gweld.
disgrifiad o’r llunLiwiau tymhorol sydd i'w weld yn y babell flodau o bob math o rywogaethau. Mae disgwyl dros 22,000 o bobl yn yr arddangosfa dros y dyddiau nesa'

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol