Gwesty amlwg yn ailagor yn Wrecsam ar ôl bod yn nwylo'r gweinyddwyr

Wynnstay Arms Wrecsam Image copyright bbc
Image caption Fe fydd 40 o bobl yn cael gwaith wrth i'r gwesty ailagor

Bydd un o westai amlycaf y gogledd ddwyrain yn ailagor ddydd Iau gan greu gwaith i 40 o bobl.

Cwmni Marston's yw perchnogion newydd Gwesty'r Wynnstay yn Wrecsam.

Cafodd y Wynnstay ynghyd a nifer o westai arall oedd yn eiddo i Stephanie Booth ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr fis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd Alex Watson o gwmni Marston: "Mae hwn yn newyddion gwych i Wrecsam, ac rydym yn falch dros ben ein bod wedi adfer yr adeilad bendigedig.

Trafferthion ariannol

"Mae gwaith atgyweirio wedi ei gwblhau ar amser.

"Mae'n adeilad prydferth a byddai wedi bod yn siom ei gadw ar gau yn fwy nag oedd ei angen."

Bydd yna 27 o ystafelloedd gwely ar gael i westeion o ddydd Iau.

Bu'n rhaid i'r gwesty gau yn syth yn 2011 oherwydd trafferthion ariannol.

Ar y pryd roedd 85 o aelodau côr o Pennsylvania, America, oedd yn cystadlu yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn aros yno.

Gorfodwyd aelodau'r côr i chwilio am rywle arall i aros.

Fe wnaeth Ms Booth brynu'r gwesty ym mis Ebrill 2010 gan addo adnewyddu'r adeilad cofrestredig Gradd 2 i'w hen ogoniant.

Y llynedd fe wnaeth ymgais aflwyddiannus i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Straeon perthnasol