Casnewydd 0-0 Darlington

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Casnewydd 0-0 Darlington

Mae Casnewydd bron yn bendant wedi llwyddo i aros yn Uwchgynghrair Blue Square Bet am dymor arall yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Darlington nos Fawrth.

Yn fathemategol, mae'n bosib i Hayes & Yeading ddal Casnewydd ar bwyntiau, ond mae gwahaniaeth goliau'r Alltudion gymaint yn well, fel y byddai bron yn amhosib i'w goddiweddyd.

Doedd hon ddim yn glasur o gêm o bell ffordd. Roedd Darlington eisoes yn gwybod y byddan nhw'n disgyn o'r adran y tymor nesaf, ac roedd Casnewydd yn ymwybodol y byddai pwynt mwy na thebyg yn ddigon.

Enillodd Telford nos Fawrth hefyd sy'n golygu bod Casnewydd yn disgyn i'r ugeinfed safle.

Ychydig o gyfleoedd gafodd y ddau dîm mewn gwirionedd, ond fe all rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, ymlacio rhywfaint nawr a chanolbwyntio ar daith Casnewydd i Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA.

Ebrill 17 2012