Caerdydd 2-0 Derby

Image copyright Other

Caerdydd 2-0 Derby County

Mae Caerdydd yn dal yn chweched yn y Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth dros Derby County yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Roedd gôl wyrthiol gan Mark Hudson yn goron ar noson dda i Gaerdydd er nad oedd y perfformiad wedi argyhoeddi'n llwyr.

Dechreuodd Caerdydd yn dda gyda Kenny Miller yn gorfodi arbediad gan golwr yr ymwelwyr o fewn y pum munud cyntaf.

Wedi hynny fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd, ond wedi 23 munud daeth moment fawr yr hanner cyntaf.

Tarodd Miller y postyn gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi, ac o fewn eiliadau roedd Joe Mason wedi rhwydo i roi Caerdydd ar y blaen.

Gwella wnaeth pethau wedi'r egwyl wrth i Gaerdydd fynd ymhellach ar y blaen wedi 62 o funudau, ac roedd hi'n gôl gofiadwy.

Yn dilyn cic hir gan golwr Derby, fe reolodd Mark Hudson y bêl cyn taro ergyd o'i hanner ei hun - pellter o tua 65 metr - yn ôl dros ben y golwr ac i'r rhwyd.

Roedd digon o ymdrech gan yr ymwelwyr - yn wir fe gafodd Derby mwy o ergydion at y gôl na Chaerdydd yn ystod yr ornest, a David Marshall oedd y prysuraf o'r ddau golwr ym munudau olaf y gêm.

Ond y pwyntiau oedd yn bwysig i Gaerdydd, ac fe ddaeth hwb o gyfeiriad arall ar y noson gan i Middlesbrough fethu a churo'r tîm ar waelod yr adran - Doncaster - gan roi rhywfaint o fwlch rhwng yr Adar Gleision a'r seithfed safle.

Bydd un fuddugoliaeth arall yn sicrhau lle Caerdydd yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor felly.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Reading 44 +30 88
2. Southampton 44 +36 85
3. West Ham 44 +31 80
4. Birmingham 44 +25 72
5. Blackpool 44 +16 71
6. CAERDYDD 44 +12 71
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Middlesbrough 44 1 67
8. Hull 44 3 65

Ebrill 17 2010