Damwain farwol: Cyhoeddi enw
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:36pm
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ddynes gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad yn Llandrillo-yn-Rhos brynhawn Llun.
Roedd Celia Mary Service, 72 oed, yn byw ym Mae Colwyn, Sir Conwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 3:36pm wedi i gar Jaguar glas daro dwy ddynes oedd yn cerdded ger siop yn Ffordd y Rhos.
Aed â'r ddynes arall i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Fe gafodd gyrrwr lleol y car Jaguar ei gludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw ei anafiadau yntau'n ddifrifol.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio at unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu â gwybodaeth i gysylltu gyda'r Uned Blismona Ffyrdd yn Llanelwy ar 101.