Gleision yn chwilio am gyfarwyddwr rygbi newydd

Justin Burnell a Gareth Baber Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Wrth y llyw: Justin Burnell a Gareth Baber

Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod am benodi cyfarwyddwr rygbi newydd.

Ers i Dai Young roi'r gorau i hyfforddi'r Gleision y llynedd, mae'r clwb wedi bod dan arweiniad Gareth Baber a Justin Burnell.

Eleni llwyddodd y clwb i gyrraedd wyth olaf Cwpan Heineken ond mae canlyniadau diweddar wedi bod yn siomedig.

Dywedodd prif weithredwr y Gleision, Richard Holland, y bydda'r dasg o chwilio am gyfarwyddwr rygbi yn dechrau ar unwaith.

Rhai o'r enwau sydd wedi eu crybwyll gan sylwebyddion yw Sean Holley a Lyn Jones, cyn hyfforddwyr y Gweilch, a chyn hyfforddwr y Scarlets, Phil Davies.

Un arall a allai fynegi diddordeb yw Kingsley Jones, cyn hyfforddwr Sale, nad yw wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd i hyfforddi tîm cenedlaethol Rwsia.

'Dealltwriaeth dda'

"Fe fydd Gareth (Baber) a Justin (Burnell) yn parhau yn eu swyddi ond fe fydd penodi cyfarwyddwr rygbi yn cryfhau ein sefyllfa," meddai Holland mewn datganiad.

"Mae hwn yn gam positif i'r Gleision a'r bwriad yw adeiladu ar garfan ifanc a chyffrous, sy'n cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru.

"Rydym yn chwilio am ymgeisydd â phrofiad a dealltwriaeth dda o rygbi yng Nghymru."

Daeth diwedd i obeithion y Gleision yng Nghwpan Heineken ar ôl colli 34-3 i'r pencampwyr Leinster.

Ychwanegodd Holland: "Rhaid canmol Gareth a Justin am sicrhau bod Caerdydd yn yr wyth olaf.

"Dim chwarae bach yw bod yn un o'r wyth o dimau gorau yn Ewrop.

"Ond doedd dim dwywaith fod hwn yn dymor anodd i'r ddau wrth y llyw oherwydd cyfyngiadau ariannol a chwaraewyr yn gadael y clwb."

Straeon perthnasol