Caerdydd v Derby

Rudy Gestede Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Rudy Gestede yn debygol o golli'r gêm yn erbyn Derby nos Fawrth

Bydd Dinas Caerdydd yn gobeithio ymestyn eu rhediad diguro i wyth gêm wrth herio Derby nos Fawrth.

Mae Caerdydd yn dal yn y chwech ucha' yn y Bencampwriaeth ar ôl eu buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Barnsley dros y Sul.

Mae eu gobeithion o chwarae yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor yn dal yn fyw.

Byddai ennill saith pwynt o'u tair gêm olaf fwy na thebyg yn ddigon iddyn nhw lwyddo i gymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle am y trydydd tro yn olynol.

Mae ymosodwr yr Adar Gleision, Rudy Gestede, yn debygol o golli'r gêm yn erbyn Derby yn Stadiwm Caerdydd nos Fawrth oherwydd anaf i'w glun.

Dim ond tair gwaith mae Derby wedi curo Caerdydd oddi cartref ers i'r ddau chwarae yn erbyn ei gilydd am y tro cyntaf yn 1927, pan enillodd Yr Adar Gleision Cwpan yr FA.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Reading 43 +29 85
2. Southampton 43 +34 82
3. West Ham 43 +31 79
4. Birmingham 43 +25 71
5. Blackpool 43 +15 68
6. CAERDYDD 43 +10 68
7. Middlesbrough 43 1 66
8. Brighton 43 0 63

Ebrill 17 2010