Llys: Menyw 'yn feddw iawn'

Ched Evans (chwith) a Clayton McDonald yn Llys y Goron, Caernarfon Image copyright PA
Image caption Ched Evans (chwith) a Clayton McDonald tu allan i Lys y Goron, Caernarfon

Mae llys wedi clywed bod menyw yr honnir iddi gael ei threisio gan ddau bêldroediwr proffesiynol wedi bod yn "feddw iawn" mewn siop fwyd parod.

Eisoes mae chwaraewr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, ac amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, y ddau'n 23 oed, wedi gwadu'r ymosodiad yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ger Y Rhyl.

Yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd Sohail Aslam, perchenog siop cebab y Godfather yn Y Rhyl, fod y fenyw wedi cwympo dwy neu dair gwaith yn ei siop.

"Doedd hi ddim yn arfer bod mor feddw â hynny ond roedd hi'n feddw iawn y noson honno," meddai.

Roedd Mr Evans, o Penistone, De Sir Efrog, a Mr McDonald o Crewe yn Sir Gaer wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi cael rhyw gyda'r achwynydd, oedd yn 19 ar y pryd, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol.

Ond mae'r erlyniad wedi honni nad oedd hi mewn stad i gydsynio.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol