Clwydi metel wedi cael eu dwyn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun, Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i nifer o glwydi metel gael eu dwyn o fynedfeydd tai yn Sir Ddinbych.

Cafodd y clwydi eu dwyn o dai yn ne Rhyl a Rhuddlan rhwng 3:00am a 6:00am ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod dyn yn gyrru fan LDV Sherpa, gyda chaban gwyn a dyluniad melyn ar y drws, wedi ei weld yn yr ardal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol