Abertawe 3-0 Blackburn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl agoriadol

Mae'r Elyrch wedi croesi'r 40 pwynt ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Blackburn, sydd nawr mewn perygl mawr o ddisgyn o'r Uwchgynghrair.

Seren y gêm Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl agoriadol, trwy grymanu'r bêl yn gelfydd i gornel y rhwyd.

Manteisiodd Scott Sinclair ar gamgymeriad Scott Dann cyn pasio'r bêl i Danny Graham a'i trosglwyddodd i Nathan Dyer a ergydiodd i'r rhwyd am yr ail.

Gwastraffodd David Dunn gyfleoedd i'r ymwelwyr a seliwyd eu tynged pan sgoriodd Dann i'w rhwyd ei hun ar ôl i Sigurdsson fwrw'r postyn.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Ebrill 14 2012

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol