Cymdeithas Morrisiaid Môn yn chwilio am gyfarwyddwr

Alun Jones
Newyddion Ar-lein

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Dafydd Wyn Wiliam yn torri eithin ger cofgolofn y Morrisiaid ym Mhentre-eiriannell, Ynys Môn

Mae cymdeithas ddiwylliannol sydd wedi bod o dan ofal yr un cyfarwyddwr ers ei sefydlu yn 1997 nawr yn chwilio am olynydd.

Y Parchedig Ddr Dafydd Wyn Wiliam sydd wedi bod yn gyfarwyddwr Cymdeithas Morrisiaid Môn ers ei sefydlu ar 12 Ebrill 1997.

Ef hefyd yw golygydd cylchgrawn y gymdeithas, Tlysau'r Hen Oesoedd, sy'n cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Fe fydd Dr Wiliam yn rhoi heibio ei swyddi gydag ymddangosiad rhifyn Ebrill 2013 y cylchgrawn.

Roedd Morrisiaid Môn, sef y brodyr Lewis (1701-65), Richard (1703-79), William (1705-63) a Siôn (1713-40), yn adnabyddus fel ysgolheigion a llenorion yn ystod y 18fed ganrif.

'Trichanmlwyddiant'

Dywedodd Dr Wiliam: "Dwi wedi cyrraedd oedran reit barchus ac mae'r corff a'r meddwl yn dweud wrthyf yn garedig i arafu a phwyllo.

"Hefyd erbyn hynny fe fyddwn wedi dathlu trichanmlwyddiant geni pob un o'r brodyr.

Ffynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Cofeb i'r Morrisiaid yn Nyddyn Melys, Capel Coch

"Dwi ddim yn disgwyl i fy olynydd ddilyn fy mhatrwm i. Dwi'n perthyn i'r oes o'r blaen, heb y rhyngrwyd ac e-bost".

Dywedodd ei fod yn hyderus ynghylch dyfodol y gymdeithas, gan fod ganddi "aelodau teyrngar a deallus".

Ei obaith yw y bydd y cylchgrawn hefyd yn parhau, ond "baswn i ddim yn beio fy olynydd pe bai'n dewis peidio â chyhoeddi cylchgrawn".

Ychwanegodd: "Roedd Lewis Morris yn awyddus i sefydlu cylchgrawn i gyhoeddi trysorau ein llên, ac mae'r gymdeithas wedi ceisio gwireddu ei weledigaeth.

"Byddaf yn fwy na bodlon i helpu fy olynydd i'r eithaf pe bai'n gofyn i mi".

'Cwbl nodedig'

Dywedodd ysgrifennydd y gymdeithas, Ken Owen: "Mi fu cyfraniad Dafydd Wyn Wiliam i Gymdeithas Morrisiaid Môn yn gwbl nodedig.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Lewis Morris oedd yr hynaf a'r galluocaf o'r brodyr

"Bu'n olygydd ar gylchgrawn y Gymdeithas, Y Tlysau, ers y cychwyn cyntaf, a thraddododd nifer o ddarlithoedd neilltuol dros y blynyddoedd.

"Does neb yn fwy gwybodus am hanes y Morrisiaid na Dafydd, a'n braint fu gallu manteisio ar ei ysgolheictod disglair ers sefydlu'r Gymdeithas yn ôl yn 1997.

"Gwaith anodd dros ben i rywun fydd dilyn yn ôl troed Dafydd ond rydym yn hyderus y daw rhywun i'r adwy".

'Hyrwyddo ymchwil'

Mae gan y gymdeithas tua 150 o aelodau a'i diben yw "hyrwyddo ymchwil i bob agwedd ar weithgareddau diwylliannol ac ysgolheigaidd y Morrisiaid, er enghraifft, barddoniaeth, cerddoriaeth, hen draddodiadau Ynys Môn, llysieueg, ac i barhau â'r gweithgaredd hwnnw".

Fe wnaeth Lewis Morris, y brawd hynaf, ragori fel bardd, ysgrifennwr rhyddiaith, ysgolhaig a syrfëwr tir a môr.

Daeth hefyd yn un o brif hyrwyddwyr yr adfywiad clasurol mewn dysg a llên yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif.

Rhagorodd Richard hefyd fel prif golofn Cymdeithas y Cymmrodorion a sefydlwyd yn Llundain yn 1751; William fel naturiaethwr; a Siôn fel llongwr.

Mae'r gymdeithas hefyd yn trefnu darlithoedd achlysurol, ac ar ddydd Sadwrn Ebrill 21 fe fydd Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, yn traddodi darlith yn Eglwys Biwmares ar y pwnc: "Rhwyfo'r tannau: Guto'r Glyn ym Môn'.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol