Ffermwr yn apelio yn erbyn dedfryd
- Cyhoeddwyd

Roedd wedi ffugio prawf er mwyn hawlio iawndal.
Mae ffermwr o Gaerfyrddin wedi penderfynu apelio yn erbyn dedfryd am ffugio prawf diciâu ar wyth o'i wartheg er mwyn hawlio iawndal.
Roedd wedi defnyddio deunydd i chwyddo croen anifail.
Cafodd Gary Davies ddedfryd ohiriedig o bedwar mis o garchar ac mae disgwyl iddo dalu £10,000 o gostau yn ogystal ag ad-dalu £16,000 o iawndal.
Gorchmynnwyd iddo hefyd wneud 200 awr o wasanaeth cymunedol.
Nid yw'r undebau amaeth am wneud sylw am yr achos tra bod apêl ar y gweill.
Straeon perthnasol
- 25 Mawrth 2012
- 29 Mehefin 2011
- 16 Awst 2011
- 18 Gorffennaf 2011
- 3 Mawrth 2011