Amheuon gwraig Warren Gatland am ei anafiadau cyn taith Cymru

Hyfforddwr Rygbi Cymru Warren Gatland Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd Warren Gatland yn gorfod cael llawdriniaeth ar ei sawdl dde

Mae gwraig Warren Gatland wedi dweud wrth bapur newydd yn Seland Newydd fod posibilrwydd na fydd yn ddigon iach i hyfforddi Cymru ar eu taith yn Awstralia ym mis Mehefin.

Torrodd Gatland ei ddwy sawdl ar ôl syrthio Ddydd Llun Y Pasg pan oedd ar wyliau yn ôl yn Seland Newydd.

Bydd yn cael llawdriniaeth i ail-adeiladu ei sawdl dde.

Eisoes mae swyddogion Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod yn obeithiol y bydd yn gwella cyn y daith yn erbyn y Wallabies.

Dywedodd Trudy Gatland wrth Y Waikato Times fod rhaid ystyried y sefyllfa yn nes at fis Mehefin pan mae'r garfan i fod i deithio i Awstralia.

Os na fydd yn gwella mewn pryd ar gyfer y daith sy'n dechrau ar Fehefin 9, Rob Howley fydd wrth y llyw.

Howley gafodd ei enwi os yw Gatland yn cael ei ddewis i fod yn hyfforddwr Y Llewod yn 2013.

Tri metr

Gatland yw'r ffefryn ar gyfer y swydd.

Mae Mrs Gatland wedi dweud ei bod yn falch iawn nad oedd damwain ei gŵr yn waeth.

Cafodd anafiadau i'w ddwy sawdl wrth lanhau ffenestri tŷ haf yn Waihi Beach tua 8.30am (amser lleol) Ddydd Llun Y Pasg.

Yn ôl datganiad Undeb Rygbi Cymru, fe gollodd ei gydbwysedd a syrthio tri metr a glanio ar ei draed ar goncrid.

Dywedodd ei wraig ei fod yn glanhau'r ffenestri cyn bod gohebydd yn cyrraedd.

"Roedd gohebydd am wneud stori nodwedd am ein tŷ glan môr ar gyfer cylchgrawn ac roedd hi'n dod y diwrnod hwnnw.

"Roedden ni'n cael popeth yn barod a Warren yn glanhau'r ffenestri i mi. Roedd yn garedig iawn.

"Dwi'n meddwl y byddwn yn cael pobl broffesiynol i wneud y gwaith y tro nesa.

"Fe allai pethau fod wedi bod llawer gwaeth.

"Yn ffodus, fe laniodd ar ei draed, fe allai fod wedi glanio ar ei ben."

Poenus

Dywedodd ei fod wedi syrthio am yn ôl.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Roedd Warren Gatland yn glanhau ffenestri ei gartref pan ddisgynodd

"Mae torri'r sawdl yn boenus iawn. Mae'n ddewr iawn ond mewn poen.

"Mae'n gobeithio na fydd hi'n gyfnod hir cyn y bydd yn ôl ar ei draed.

"Ond fe fydd yn gorfod bod mewn plastr ar y ddwy goes ar y cychwyn.

"Gobeithio y bydd ei droed chwith yn gwella'n gynta' gan nad yw'r anaf mor ddifrifol â'r un dde.

"Fe fydd angen llawdriniaeth ar ei droed dde."

Dywedodd y byddai hyfforddwyr Cymru yn paratoi'r tîm ar gyfer y daith ac byddai ei gŵr yn ystyried ei sefyllfa nes ymlaen a fydd yn gallu mynd i Awstralia.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.