Dyn ar goll: Heddlu'n apelio

Published
image copyrightOther
image captionRoedd i fod i aros gyda ffrindiau ym Mhenparcau ger Aberystwyth nos Sul

Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn 24 oed o ardal Llandysul sydd wedi bod ar goll ers dechrau'r wythnos.

Cafodd Simon Andrew Jones ei weld tua 1.10am, ddydd, Llun Ebrill 9, yn siop prydau parod Lip Licking Chicken ar Heol y Wig, Aberystwyth.

Roedd yn cerdded at dŵr y cloc cyn mynd i gyfeiriad clwb nos Pier Pressure.

Ac roedd y dyn tenau 5' 9" o daldra â gwallt tywyll hyd canolig i fod i aros gyda ffrindiau ym Mhenparcau ond nid aeth yn ôl yno.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae ei ymddygiad yn annodweddiadol ac mae ei deulu a'i ffrindiau yn poeni'n fawr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol