Holi dyn wedi ymosodiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Heddlu Gwent fod dyn 21 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol wedi i ddyn 27 oed gael ei anafu dros y penwythnos.
Daethpwyd o hyd i'r dyn yng nghanol tre'r Fenni tua 2:35pm ddydd Sul.
Roedd wedi cael anafiadau difrifol i'w ben.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni, ble mae'n dal i fod mewn cyflwr sefydlog.
Mae dyn o ardal Y Fenni wedi cael ei arestio ac wedi'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol