Symud tanwydd o'r MV Carrier cyn torri'r llong
- Cyhoeddwyd

Mae'r litrau olaf o danwydd wedi cael eu symud oddi ar long aeth i drafferthion oddi ar arfordir gogledd Cymru'r wythnos ddiwetha'.
Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) fod y gwaith o dynnu'r 24,000 litr o olew nwy a 100 litr o olew hydrolig oddi ar yr MV Carrier wedi gorffen nos Lun.
Bydd y llong yn cael ei pharatoi ar gyfer ei thorri'n sgrap yn ddiweddarach yn yr wythnos, gyda disgwyl i'r gwaith gymryd hyd at 10 wythnos.
Fe darodd y llong, sydd wedi'i chofrestru yn Antigua a Barbuda, yn erbyn creigiau yn Llanddulas ger Bae Colwyn ddydd Mawrth diwetha'.
Ar y cychwyn roedd "rhywfaint" o danwydd wedi gollwng am fod tri thwll yn ochr dde'r llong.
Bu'n rhaid cau rhan o ffordd yr A55 am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor, er bod yr heddlu wedi cyflwyno cyfyngiad cyflymder o 40 m.y.a. ger y safle.
Mae cwmni achub wedi cael eu cyflogi i dorri'r llong i fyny a chludo'r rhannau i iard sgrap.
24,000 litr
"Cafodd y gwaith o symud y 24,000 litr o olew tanwydd, ynghyd â dŵr olewog a deunydd peryglus arall oddi ar y Carrier ei gwblhau neithiwr," meddai llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.
"Mae'r llong yn parhau ar dir ac yn pwyso yn erbyn blociau concrid ar y traeth ger ffordd ddeuol yr A55."
Mae disgwyl i'r gwaith o symud y llong ddechrau ddydd Mercher gan bara hyd at 10 wythnos, ychwanegodd y llefarydd.
Mae cerbydau ac offer arbenigol wedi cyrraedd y safle ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i'r cyhoedd i aros yn ddigon pell o'r safle.
Straeon perthnasol
- 8 Ebrill 2012
- 4 Ebrill 2012
- 3 Ebrill 2012
- 4 Ebrill 2012