Rhybudd am wyntoedd cryfion

Gwyntoedd cryfion Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y rhagolwg yw gwyntoedd cryfion mewn mannau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai gwyntoedd cryfion a glaw trwm effeithio ar rannau o Gymru Ddydd Llun y Pasg.

Gallai'r gwyntoedd o'r de-orllewin fod mor gyflym â 40 milltir yr awr, yn enwedig ar yr arfordir.

Y rhagolwg yw glaw trwm, yn enwedig ar y llethrau a'r mynyddoedd sy'n wynebu'r gorllewin, gan gynnwys Eryri, Mynyddoedd y Cambrian a'r Preseli.

Dywedodd cyflwynwraig dywydd Radio Cymru, Yvonne Evans: "Fe fydd y glaw yn newyddion da i arddwyr a ffermwyr ond, yn anffodus, ddim yn ddelfrydol i'r rhai sy ar eu gwyliau."

Cyfnewidiol

Mae'n bosib y bydd hi'n fwy sych a braf erbyn yr hwyr a'r tymheredd yn 12 gradd Celsius.

Bydd y tymheredd tua 6 gradd Celsius ym Mangor a 9 yn Y Rhyl ac Abertawe.

Yn ystod yr wythnos bydd y tywydd yn gyfnewidiol iawn, cyfuniad o heulwen a chawodydd Ebrill allai fod yn aeafol ar dir uchel.

Ar ôl Mawrth cynnes cwympodd eira ym Mhowys a'r gogledd-ddwyrain yn wythnos gynta Ebrill.

Straeon perthnasol