Arestio dyn am 'fygwth trais'

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunCafodd yr heddlu wybod am 5.25pm nos Sadwrn fod dyn yn ymddwyn yn amheus

Mae dyn lleol 41 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar ddryll gyda'r bwriad o gyflawni trais.

Am 5.25pm nos Sadwrn cafodd yr heddlu wybod fod dyn yn ymddwyn yn amheus ym Mwcle, Sir y Fflint.

Anfonodd yr heddlu dîm arbennig i drafod â'r dyn ildiodd am 8.20pm.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Pierce: "Rydym yn ddiolchgar iawn am help y bobl leol a'n partneriaid yn y Gwasanaeth Ambiwlans a Gwasanaeth Tân."