Llanw: Achub chwech o gerddwyr yn Rhosili, Penrhyn Gŵyr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Gwylwyr y Glannau: 'Dylai pawb gadw golwg ar amseroedd y llanw ...'

Cafodd chwech o gerddwyr eu hachub am 4.25pm ddydd Sadwrn wedi i'r llanw ddod i mewn yn Ynysweryn ger traeth Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr.

Roedden nhw yn eu hugeiniau.

Bad achub Horton a Phort Eynon a'u cludodd i'r lan.

Dywedodd Will Parffitt, Rheolwr Shifft Gwylwyr y Glannau yn y Mwmbwls: "Dylai pawb gadw golwg ar amseroedd y llanw cyn mynd i gerdded ar yr arfordir."