Symud mwy na hanner tanwydd oddi ar long yn Llanddulas
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi dweud bod mwy na hanner y tanwydd wedi ei symud oddi ar y llong aeth i drafferthion nos Fawrth.
Hyd yn hyn mae 14,000 o litrau allan o gyfanswm o 24,000 wedi eu symud.
Fe darodd y llong yr MV Carrier yn erbyn creigiau yn Llanddulas ger Bae Colwyn ac mae'n debyg mai ychydig o berygl sy 'na i fywyd gwyllt yr ardal.
Ar y cychwyn roedd "rhywfaint" o danwydd wedi gollwng am fod tri thwll yn ochr dde'r llong.
Y cam nesa fydd tynnu'r llong yn ddarnau ar y lan yn Llanddulas cyn ei dinistrio.
Pympio
Dywedodd y perchnogion mai'r nod fyddai gorffen pympio'r tanwydd yn ystod penwythnos y Pasg.
"Os yw'r tywydd yn braf," meddai Mike Lacey, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Achub Rhyngwladol, "fydd 'na ddim problemau mawr."
Roedd yr A55 ar gau am gyfnod ond ailagorodd gyda chyfyngiadau cyflymdra o 40 mya.
Dywedodd Gareth Pritchard, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, y byddai'r cyfyngiadau mewn grym tra bod y tanwydd yn cael ei symud.
Mae llwybr beic rhwng Llanddulas a Hen Golwyn yn parhau ar gau.
Achub
Cwmni PGC Demolition enillodd y cytundeb i glirio'r olew.
Cafodd saith aelod o griw'r llong, i gyd o Wlad Pwyl, eu hachub am 1am fore Mercher wedi i'r llong o'r Almaen daro'r creigiau yn ymyl Glanfa Jaynes.
Ar un adeg roedd pryder y gallai mwy o olew lifo i'r môr gan fod Bae Lerpwl yn ardal gwarchod arbennig.
Straeon perthnasol
- 4 Ebrill 2012
- 3 Ebrill 2012
- 4 Ebrill 2012