Gêm gyfartal i Gasnewydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Casnewydd 0-0 Telford United

Cafodd Casnewydd a Telford bwynt yr un, y ddau'n ymladd i osgoi'r cwymp.

Doedd yr arlwy ddim yn addawol a dim ond 1,500 oedd yn gwylio ym Mharc Ysbyty.

Wedi'r egwyl, dangosodd yr ymwelwyr fwy o awch, os taw hwnna oedd y gair, a daeth Chris Sharp a Kyle Perry'n agos.

Ond ar y cyfan doedd dim fflach o ysbrydoliaeth a'r ddau dîm yn fodlon ar gêm gyfartal ddi-sgôr.