Hofrennydd yn cludo dyn i'r ysbyty

Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad yn Nhreharris ger Merthyr Tudful fore Llun.

Digwyddodd y ddamwain tua 8.30am ddydd Llun pan fu car mewn gwrthdrawiad â pholyn lamp tu allan i Bwll Nofio Edwardsville.

Cafodd y claf ei gludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant gan hofrennydd y gwasanaeth ambiwlans.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol