Medal aur i Geraint Thomas a'i dîm
- Cyhoeddwyd

Y Cymro Geraint Thomas (chwith) sy'n aelod o dîm seiclo Prydain
Ym mhencampwriaethau seiclo dan do'r byd ym Melbourne, mi ddaeth tîm Prydain, sy'n cynnwys y Cymro Geraint Thomas, yn gyntaf yn y ras cwrso dros bedwar cilometr, gan osod record byd newydd wrth wneud hynny.
Gorffennodd Thomas, Ed Clancy, Pete Kennaugh a Steven Burke mewn amser o dri munud 53.295 eiliadau i gipio'r fedal aur. Melbourne.
Y ffefrynnau Awstralia ddaeth yn ail, a hynny mewn amser o dri munud 3:53.401 o eiliadau.
Ystyrir y pencampwriaethau seiclo dan do'r byd fel y yn y gystadleuaeth fawr olaf cyn gemau Olympaidd yn Llundain yn Awst.
Fe fydd y canlyniad yn hwb i dîm Prydain cyn y Gemau Olympaidd.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2012
- 7 Hydref 2011