Bangor yn cynnal Gŵyl Gerddoriaeth Electronig
- Cyhoeddwyd

Mae cerddorion rhyngwladol yn chwarae offerynnau 'rhyfedd a gwahanol' yn ystod gŵyl gerddoriaeth electronig sy'n cael ei chynnal ym Mangor.
Bydd INTER/actions, symposiwm tri diwrnod sydd yn rhad ac am ddim i bawb, yn cael ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ym Mangor rhwng dydd Mawrth a dydd Iau.
Mae'r digwyddiad, sydd wedi cael ei drefnu gan Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor, yn cynnwys cyngherddau, sesiynau arddangos gyda cherddorion yn chwarae offerynnau electronig anghyffredin yn ogystal ag amrywiaeth o arddangosfeydd cerdd ryngweithiol.
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau yn y Brifysgol, bydd staff o'r Ysgol Gerdd yn gweithio gyda Dinas Sain Bangor ar gyfer y digwyddiad 'Pont Menai a Gwifrau Sain' lle fydd Jodie Rose, artist sain o Awstralia, yn gosod meicroffonau ar Bont Menai.
'Pontio categorïau gwahanol'
Dywedodd Dr Xenia Pestova, Pennaeth Perfformio o fewn yr Ysgol Gerdd: "Rydw i'n edrych ymlaen ac mae'r digwyddiad wedi tynnu llawer o sylw yn rhyngwladol.
"Mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod yma i berfformio a dangos ei gwaith.
"Mae'r mathau o gelf a cherddoriaeth rydym yn rhaglennu yn pontio categorïau gwahanol iawn - celf fideo, celf amgylcheddol, dylunio offeryn digidol, gwaith addasiad ar y pryd, jazz / roc a pherfformiad cyfoes clasurol - a hyn i gyd yma ym Mangor.
"Rydym yn gobeithio croesawu gymaint o bobl o'r gymuned leol ac sydd bosib i ni gael rhannu rhywbeth gwahanol gyda nhw."
Mae INTER/actions wedi ei drefnu ar y cyd gydag Electroacwstig Cymru, Risk of Shock, grŵp ymchwil GEMINi a Dinas Sain Bangor.
Mae'r holl ddigwyddiadau am ddim ac yn agored i bawb.
Straeon perthnasol
- 1 Gorffennaf 2010
- 10 Gorffennaf 2009
- 6 Medi 2008