Heol yn ail agor wedi damwain

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun, Trodd y lori ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.

Mae'r A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron wedi ail agor ar ôl bod ynghau am oriau oherwydd damwain rhwng lori oedd yn cario cyrff anifeiliaid a char.

Trodd y lori, oedd yn teithio o Lanbed i Stoke, ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.

Aed â gyrwr y car i'r ysbyty rhag ofn.