Heol ynghau oherwydd damwain
- Cyhoeddwyd

Trodd y lori ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.
Mae rhan o'r A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron ynghau oherwydd damwain rhwng lori oedd yn cario cyrff anifeiliaid a char.
Trodd y lori, oedd yn teithio o Lanbed i Stoke, ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.
Aed â gyrwr y car i'r ysbyty rhag ofn.