Damwain Y Bwcle: Cyhoeddi enw beiciwr

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunTony Whitehouse: 'Yn addoli ei blant'

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur 51 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn y Bwcle, Sir y Fflint, â char brynhawn Llun.

Y dyn lleol oedd Tony Whitehouse.

Cafodd menyw 23 oed oedd yn gyrru car Hyundai ei harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Yn y cyfamser, mae'r teithiwr 16 oed ar y beic modur, gafodd anafiadau difrifol, mewn cyflwr sefydlog.

'Addoli'

Dywedodd teulu Mr Whitehouse mai fe oedd "cannwyll eu llygaid, un mewn miliwn."

"Mi oedd yn addoli y plant 14 ac 11 oed.

"Mae hon yn golled fawr i'w deulu ac i'w ffrindiau yn y cyffiniau ac yn bellach i ffwrdd."

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am dystion.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r Cwnstabl Aled Jackson ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol