Carchar ar ôl gwarchae arfog

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Searle ei garcharu am ddwy flynedd

Mae dyn wedi ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl gwarchae arfog yng Nghas-gwent.

Roedd Greg Searle wedi annog ei "gyfeillion ar-lein" i wylio "llofruddiaeth fyw ar Facebook."

Anfonodd negeseuon at 400 o "gyfeillion" ar Facebook yn ystod y gwarchae o amgylch ei gartref a barodd am wyth awr.

Cafodd ei garcharu ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau o achosi cythrwfl a bygwth yr heddlu.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod ei fam wedi galw'r heddlu a dweud bod ei mab yn ymddwyn yn rhyfedd.

Dywedodd David Elias ar ran yr erlyniad: "Cyrhaeddod pedwar heddwas gartref Searle a'i weld yn anelu gwn atyn nhw yn ffenest y tŷ.

Ildio

"Roedd yn gweiddi geiriau aneglur a chuddiodd y pedwar cyn galw am dîm o heddlu arfog."

Bu arbenigwyr yr heddlu yn ceisio perswadio Searle i ildio cyn cyrch yr heddlu ar y tŷ.

Dim ond bryd hynny y sylweddolodd yr heddlu fod y gwn yn ffug.

Yn ystod y cyrch roedd wedi sgwennu ar Facebook: "Fe wnaf ddangos llofruddiaeth fyw ar Facebook. Dwi'n fodlon betio .... na allwch chi aros cyn i mi wneud hyn, er mwyn i chi allu gwylio."

Clicied

Ar un adeg ysgrifennodd: "Rwyf wedi gadael bom yn rhywle. Dwi'n meddwl ei fod dal yn y car."

Dywedodd Karl Williams ar ran yr amddiffyn fod Searle yn dioddef o broblemau seicolegol.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod yr heddlu yn gallu gweld bys Searle ar glicied y gwn.

"Doedd gan yr heddweision ddim syniad mai gwn ffug oedd hwn."