Lluniau: Awr Ddaear ym Mhontypridd

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunEnillodd disgyblion Ysgol Gymraeg Evan James ym Mhontypridd gystadleuaeth ysgrifennu stori fer gyda WWF a phrif bartneriaid Awr Ddaear 2012, More Than.
disgrifiad o’r llunEu gwobr oedd arwain yr Awr Ddaear drwy'r DU drwy orymdeithio drwy'r dref yng ngolau cannwyll
disgrifiad o’r llunCronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) oedd yn arwain yr Awr Ddaear
disgrifiad o’r llunRoedd canol tref Pontypridd mewn tywyllwch am yr awr nos Sadwrn
disgrifiad o’r llunCafodd canhwyllau eu goleuo i nodi'r Awr Ddaear gan y disgyblion
disgrifiad o’r llunRoedd rhai o ddisgyblion Ysgol Evan James wedi addurno eu hwynebau ar gyfer y digwyddiad nos Sadwrn