Arwyddion maes parcio anghywir yng Nghonwy

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunMae'r gair modur wedi ei gamsillafu ar y maes parcio

Mae cyngor sir wedi addo cywiro arwyddion anghywir a gafodd eu peintio ar dir un o'u meysydd parcio.

ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunBysiau ddylai barcio yma ym Maes Parcio Morfa Bach

Cafodd maes parcio Morfa Bach yn Gyffin, ger Castell Conwy, ei ailwynebu yn ddiweddar yn barod ar gyfer tymor yr ymwelwyr.

Mae un arwydd yn dweud "beiciau modus" yn Gymraeg yn lle beiciau modur ac mae'r arwydd Saesneg am fysiau yn dweud "coashes" yn lle coaches.

"Rydym yn ymwybodol o'r camgymeriadau ac fe fyddan nhw'n cael eu cywiro," meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol