Gwaith Graham Sutherland i'w weld yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Disgrifiwyd Graham Sutherland fel "arlunydd gorau ei genhedlaeth".
Mewn arddangosfa mae detholiad o'i waith a gwrthrychau o'r archifau sy'n gysylltiedig â'r arlunydd i'w gweld yn Sir Benfro.
Daw'r cynnwys o gasgliad Amgueddfa Cymru a bydd yn Oriel y Parc, Tyddewi, o Ebrill 1 tan ddiwedd mis Mehefin.
Y traddodiad Rhamantaidd Seisnig oedd ei ysbrydoliaeth wreiddiol ond datblygodd agwedd bersonol at natur a oedd yn deillio o gelf fodern Ewropeaidd.
'Ysbrydoliaeth'
Cafodd y llefydd y bu'r artist yn gweithio ynddyn nhw ddylanwad mawr ar ei waith: o dirwedd Caint i fryniau a chymoedd gorllewin Cymru a gwres a golau de-ddwyrain Ffrainc.
Roedd yn awyddus i adael casgliad i Gymru am ei fod yn teimlo iddo "gael cymaint oddi wrth y wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl".
Dywedodd Bryony Dawkes, Curadur Prosiectau Partneriaeth, Amgueddfa Cymru: "Arfordir anhygoel Sir Benfro oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer rhai o weithiau mwyaf poblogaidd Sutherland.
"Mae'r arddangosfa hon yn dathlu gwaith Sutherland a'r dirwedd arbennig hon.
"Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr ag Oriel y Parc yn mwynhau'r gweithiau gwych o gasgliad Amgueddfa Cymru yn yr ardal a chwaraeodd ran mor bwysig yng nghreadigrwydd yr artist."
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Amgueddfa Cymru sy'n rheoli'r oriel.
Straeon perthnasol
- 8 Chwefror 2011
- 1 Rhagfyr 2000