Darlington 2 - 4 Wrecsam

Published
image copyrightOther

Cafwyd buddugoliaeth bwysig i Wrecsam oddi cartref yn Darlington nos Fawrth, a hynny ar ôl y glec i'w gobeithion o ennill Uwchgynghriar Blue Square ar ôl colli i Forest Green Rovers ddydd Sadwrn.

Jake Speight roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 43 munud gyda pheniad o du mewn y cwrt cosbi.

Dyblwyd y fantais wedi 64 munud gyda pheniad Nathaniel Knight-Percival.

Ar ôl i Darlington daro nôl gyda goliau Adam Rundle (68 munud) a Ryan Bowman (70 munud), bu'n rhaid aros tan yr 85fed munud i Mathias Pogba benio i'r rhwyd.

Seliwyd y fuddugoliaeth gyda chic gosb Jake Speight wedi 90 munud.

Maen nhw bellach chwe phwynt tu ôl i Fleetwood gyda gêm mewn llaw.

Mae canlyniad nos Fawrth hefyd yn sicrhau gêm ail-gyfle o leiaf.

Straeon perthnasol