Cyngor Casnewydd yn cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu

Llun Artist o'r datblygiad newydd Image copyright Other
Image caption Y nod yw denu pobl i ganol y ddinas

Mae cynghorwyr Casnewydd wedi cymeradwyo cynllun i ddatblygu canolfan siopau yng nghanol y ddinas.

Yn ôl y datblygwyr, Queensberry Real Estate, bydd y cynllun yn creu tua 1,100 o swyddi newydd.

Yn 2009 rhoddwyd y gorau i gynllun gwerth £200m i ailddatblygu Sgwâr John Frost

Ond yn ôl y datblygwyr newydd, mae'r cynllun presennol, fydd yn costio £100 miliwn, yn fwy ymarferol.

Bydd y ganolfan siopa'n cynnwys un o enwau mawr y stryd fawr, sinema chwe sgrin, wyth tŷ bwyta a chaffi.

Yn hanfodol

Bydd maes parcio ar gyfer 360 o geir.

Dywedodd Dr Jonathan Deacon o Ysgol Fusnes Casnewydd fod y datblygiad yn hanfodol i'r ddinas yn ystod y 10 neu 15 mlynedd nesa.

"Mae Casnewydd yn cystadlu gyda Chaerdydd, un o lefydd siopau mwyaf deniadol y Deyrnas Unedig.

"Ac mae canolfan Cabot Circus ym Mryste a siopau'r Stryd Fawr ar gael yng Nghwmbrân.

"Rhaid gwneud rhywbeth er mwyn gallu cystadlu - ar hyn o bryd dyw hynny ddim yn digwydd."

Straeon perthnasol