Achub dau gafodd eu dal gan y llanw yn Aberystwyth

Golygfa o Aberystwyth o Graig Glais Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y gred yw bod y myfyrwyr wedi mynd i drafferthion tra'n cerdded ar draeth o dan Graig Glais

Fe gafodd dau fyfyriwr eu hachub gan Wylwyr y Glannau nos Wener ar ôl mynd i drafferthion ar draeth o dan Graig Glais yn Aberystwyth.

Fe gafodd y ddau eu cludo i'r ysbyty yn dioddef o hypothermia ond fe'u rhyddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am 6:46pm ddydd Gwener.

Y gred yw eu bod wedi eu dal gan y llanw pan oeddent yn cerdded ar draeth o dan Graig Glais.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.