Corff dyn mewn camlas ym Mhontardawe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunDylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn camlas ger Stryd Herbert ym Mhontardawe, Cwm Tawe.

Credir bod y dyn yn ei ddauddegau hwyr neu dridegau cynnar.

Daethpwyd o hyd i'w gorff tua 11.00am ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu'r De fod y farwolaeth yn anesboniadwy ond nad oedd yr amgylchiadau'n amheus ar hyn o bryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol