Gweilch Glaslyn yn dychwelyd

Gweilch y pysgod Image copyright Other
Image caption Mae gweilch-y-pysgod Glaslyn wedi dychwelyd

Mae'r par o weilch-y-pysgod sydd yn nythu yn aber y Glaslyn ger Porthmadog wedi dychwelyd.

Cyrhaeddodd y gwryw dros y penwythnos, a bore Mawrth cyhoeddodd Cynllun Gweilch Glaslyn yr RSPB bod y fenyw wedi ymuno ag ef.

Dywedodd Geraint Williams o'r RSPB bod gweilch eraill hefyd wedi cael eu gweld yn yr ardal.

Mae gweilch y pysgod yn ffyddlon i'r un nyth ac i'r un partner flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Maent yn treulio'r gaeaf yng ngorllewin Affrica.