Corff: Arestio menyw

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun(C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunDaethpwyd o hyd i'r corff am 6.14am.

Mae'r heddlu wedi arestio menyw 33 oed ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Abertawe.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn yn ardal Brynmill am 6.14am.

Cafodd ystafell ymchwilio ei sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Cocyd.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am unrhywun arall.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol