M4: Tagfeydd wedi damwain mewn niwl

Yr M4 Image copyright Other
Image caption Bu'n rhaid i yrwyr ddioddef niwl trwchus fore Llun

Mae holl lonydd yr M4 wedi ail agor ar ôl damwain rhwng sawl cerbyd mewn niwl trwchus yn ystod yr oriau brys bore Llun.

Cafodd un lôn ddwyreiniol ar Bont Llansawel ei chau rhwng cyffordd 42 (Ffordd Fabian) a chyffordd 41 (Baglan) wedi'r gwrthdrawiad.

Dywed y gwasanaethau brys fod nifer o gerbydau yn rhan o'r ddamwain gan gynnwys fan a dau gar.

Roedd y tagfeydd yn ymestyn i gyffordd 43 ger Llandarsi.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.