Stoke 2-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Matthew Upson yn agor y sgorio dros StokeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Matthew Upson yn agor y sgorio dros Stoke

Peniadau gan Matthew Upson a Peter Crouch roddodd fuddugoliaeth bwysig i Stoke ddydd Sul.

Fe wnaeth Upson lywio peniad Matthew Etherington heibio'r golwr Gerhard Tremmel ar ôl 24 munud, ag yntau yn chwarae dros Abertawe am y tro cyntaf.

Dyblwyd y fantais gan Crouch pan gyrhaeddodd tafliad hir gan Ryan Shotton.

Fe wnaeth Steven Caulker o Abertawe daro'r trawst ond Stoke gafodd y triphwynt pwysig.