Awyren yn glanio ar frys mewn cae

Yr awyren mewn clawdd ar dir fferm Image copyright Other
Image caption Yr awyren mewn clawdd ar dir fferm

Mae dau berson wedi dianc yn ddianaf ar ôl i awyren fechan lanio ar frys mewn cae ger Maes Awyr Abertawe.

Gorffennodd yr awyren dwy sedd mewn clawdd ar dir fferm tua 1:30pm ddydd Sadwrn.

Roedd y ddau yn aelodau o glwb hedfan yn Abertawe, ond nid oedd y clwb yn dymuno gwneud sylw.

Aeth tair injan o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yno gan sicrhau bod yr awyren a'r teithwyr yn ddiogel.