Apêl i adfer tŷ mawreddog
- Cyhoeddwyd

Mae apêl gymunedol yn gobeithio codi arian ar gyfer cost atgyweirio o £5 miliwn er mwyn adfer plasty Fictorianaidd yng Nghaerdydd.
Mae Ymddiriedolaeth Cwrt Insole yn gobeithio codi o leiaf £10,000 drwy'r apêl sy'n cael ei lansio ddydd Sadwrn.
Mae'r ymgyrchwyr sy'n ceisio adfer yr adeilad, gafodd ei godi yn 1856, i'w hen ysblennydd yn gobeithio derbyn £1.9 miliwn o Dreftadaeth y Loteri.
Mae'r ymddiriedolaeth eisoes wedi sicrhau grant datblygu o £165,000 oddi wrth y Loteri er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer y safle.
Y nod yw addasu'r adeilad yn feithrinfa, swyddfeydd, gweithdai ar gyfer busnesau, canolfan i oedolion a chaffi.
Cafodd y tŷ ei godi yn 1856 gan James Harvey Insole, perchennog pwll Cymer yn Y Rhondda.
Adnewyddu
Yn ôl ymgyrchwyr, mae'r tŷ yn un o'r ychydig enghreifftiau o'i fath o'r cyfnod Fictorianaidd.
Cafodd y tŷ ei brynu gan Gyngor Caerdydd yn 1938 drwy orchymyn gorfodol.
Eleni cafodd y safle ei drosglwyddo i ofal ymddiriedolaeth.
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo fe allai'r gwaith gychwyn erbyn diwedd 2012. Y nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 2014.
Straeon perthnasol
- 14 Ionawr 2012
- 28 Tachwedd 2011