Hofrenfadau yn cynnig cymorth yn Sir Y Fflint

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr elusen yn cydweithio gyda'r gwasanaethau brys

Am y tro cyntaf yng Nghymru bydd hofrenfadau ar gael i gynnig cymorth i bobl mewn trafferthion ar yr arfordir gan wirfoddolwyr.

Ers y llynedd mae hofrenfadau wedi bod yn nhref Y Fflint.

Ond erbyn hyn mae'r gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant llawn.

Elusen Hovercraft Search and Rescue UK sy'n cynnal y gwasanaeth a fydd yn cynnig cymorth i wasanaethau bad achub fel yr RNLI, y gwasanaeth tân a Gwylwyr y Glannau pan fo angen.

Mae'r hofrenfadau yn cael eu cadw yng Ngorsaf Dân Y Fflint am y tro.

Cymorth ychwanegol

Bydd y ddau beiriant yn gallu hofran uwch ben tir mwdlyd neu lonydd o dan ddŵr oherwydd llifogydd o fantais enfawr, yn ôl yr elusen.

Dywedodd Bill Alan o Fostyn, cadeirydd Hovercraft Search and Rescue UK: "Nid ydym yn honni ein bod yn wasanaeth achub ychwanegol, ond rydym yn gymorth i'r gwasanaethau eraill.

"Mae'r sefyllfa gyda'r llifogydd yn gwaethygu, ac felly fe wnaethom brynu dau hofrenfad sy'n dal pedwar person.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gwirfoddolwyr sy'n cynnal y gwasanaeth

"Rŵan rydym yn gallu cyrraedd llefydd sydd wedi profi'n anodd o'r blaen.

"A phan mae'r llanw allan, mae fflatiau mwd moryd Dyfrdwy yn enfawr."

Mae'r hofrenfadau a'r gallu i osgoi gwrthrychau sydd wedi eu cuddio dan y dŵr.

"Mae'r badau yn hofran 12 modfedd uwch ben y tir, ond rydym wedi hedfan dros bethau uwch fel biniau mawr yn y gorffennol," meddai Alan Orchard, un o ymddiriedolwyr Hovercraft Search and Rescue UK.

Mae'r hofrenfadau yn cael eu cludo ar gefn trelar ac mae 12 o bobl leol wedi gwirfoddoli i gynnal y gwasanaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol