Wrecsam yn ennill ond Casnewydd yn colli

Image copyright bbc

Kidderminster 0-1 Wrecsam

Gêm ddigon difflach a gafwyd yn Kidderminster, ond fydd dim ots am hynny gan gefnogwyr Wrecsam yn dilyn buddugoliaeth arall i'w cadw yn dynn ar sodlau Fleetwood ar frig tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet.

Roedd un gôl yn ddigon i gipio'r triphwynt, gyda'r rheolwr Andy Morrell yn arwain drwy sgorio unig gôl y gêm eiliadau cyn yr egwyl.

Doedd amddiffyn y Dreigiau ddim o dan fygythiad gydol y gêm bron er i Mayebi orfod gwneud ambell arbediad.

Yr unig newyddion drwg i Wrecsam oedd bod Fleetwood wrthi'n rhoi crasfa i Forest Green gan wella'u gwahaniaeth goliau yn sylweddol.

Ond mae Wrecsam yn dal o fewn dau bwynt i'r ceffylau blaen gydag un gêm wrth gefn.

Tamworth 2-1 Casnewydd

Doedd dechrau gêm Casnewydd yn Tamworth ddim yn edrych yn dda i'r ymwelwyr pan fu rhaid i'w golwr Glyn Thompson wneud arbediad da o gynnig Liam McDonald wedi dim ond 15 eiliad o chwarae.

Ond digon buan y daeth Casnewydd i'r gêm ac wedi dim ond chwe munud fe arweiniodd trosedd ar Elliott Buchanan at y dyfarnwr yn rhoi cic o'r smotyn i'r tîm o Gymru.

Sam Foley gamodd i'r adwy a rhwydo o'r smotyn i roi mantais i Gasnewydd.

Am weddill yr ornest, roedd Casnewydd yn dal eu tir yn daclus ac yn creu ambell gyfle heb ysbrydoli rhyw lawer.

Roedd yr un peth yn wir am y tîm cartref - tan y saith munud olaf hynny yw.

Wedi 83 o funudau, daeth ergyd i Gasnewydd wrth i Scott Barrow daro cic rydd i gornel ucha'r rhwyd i unioni'r sgôr.

Ond roedd gwaeth i ddod i dîm Justin Edinburgh - dau funud yn ddiweddarach fe aeth y tîm cartref ar y blaen.

Danny Thomas lwyddodd i osod y bêl yn isel i ganol y gôl y tu mewn i'r cwrt chwech i adael y cefnogwyr a deithiodd o Gasnewydd yn isel eu hysbryd, ac yn teithio adre'n waglaw er gwaetha'r ymdrech.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 33 +39 76
2. WRECSAM 32 +40 74
3. Luton 33 +34 62
4. Efrog 32 +30 57
5. Southport 33 -4 55
-----------------------------------------------------------------------------------------
16. CASNEWYDD 33 -8 33

Chwefror 21, 2011