Clwb pêl-droed yn hynach fyth?

Y Cae Ras, Wrecsam Image copyright BBC news grab
Image caption Dywed Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr mai Wrecsam yw'r clwb cynghrair hynaf yng Nghymru

Efallai y bydd rhaid i glwb pêl-droed hynaf Cymru ddathlu eu 150 mlwyddiant yn gynt wedi iddi ddod i'r amlwg y gallai'r clwb fod wedi'i sefydlu'n gynharach.

Roedd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael cyfle i fynegi barn am newid dyddiad sefydlu'r clwb ar eu bathodyn o 1873 i 1872.

Ond mae ymchwilwyr yn credu y gallai'r clwb ddyddio'n ôl i'r 1860au ac fe fyddai hynny'n golygu bod Wrecsam yn un o'r clybiau hynaf yn y DU.

Roedd cyfarfod Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr - perchnogion y clwb - i fod i drafod cynnig i newid y dyddiad sefydlu i 1872.

1860au

Cefnogwyd y dyddiad gan erthygl rhifyn cynnar o'r 'Wrexham Guardian' ar Hydref 5, 1872, oedd yn sôn am gyfarfod i drafod sefydlu'r clwb.

Ond yn ystod yr wythnosau diwetha' mae erthygl arall yn y 'Wrexham Advertiser' yn awgrymu bod y clwb yn bodoli yn yr 1860au.

Mae ymchwilwyr yn ceisio gwirio'r dyddiadau newydd.

Dywedodd Spencer Harris, cyfarwyddwr y clwb a'r ymddiriedolwyr: "Roedden ni'n gofyn i ddechrau i aelodau gefnogi newid dyddiad sefydlu'r clwb.

"Ond ers hynny mae 'na wybodaeth bellach wedi dod i'r amlwg allai olygu bod Wrecsam hyd yn oed yn hŷn na 1872.

"Fe allai fod yn un o'r clybiau hynaf mewn bodolaeth - hyd yn oed yn y tri uchaf - fyddai'n wych."

Notts County, sefydlwyd yn 1862, yw'r clwb cynghrair hynaf yn y DU.

Dywedodd Mr Harris y bydden nhw'n trafod unrhyw newidiadau i fathodyn y clwb gydag aelodau unwaith y bydden nhw wedi cadarnhau'r dyddiadau.

"Ni yw'r clwb hynaf yng Nghymru'n barod.

"Fe allai olygu ein bod ni'n gorfod dathlu'n 150 mlwyddiant yn gynt."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.