Rhedwr wedi ei drywanu ar lwybr beic ym Mhensarn ger Bae Colwyn

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddyn gael ei drywanu gan griw o bobl ifanc wrth redeg ar lwybr beic.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn ei 20au ac yn rhedeg rhwng Pensarn a Bae Colwyn tua hanner nos nos Wener.

Roedd tua saith o bobl ifanc wedi ei amgylchynu ger y maes parcio ym Mhensarn ac fe gafodd ei drywannu.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Mark Abbott bod yr anafiadau yn rhai arwynebol ac nad oedd ei fywyd mewn perygl.

Ond mae'n awyddus i gael gwybodaeth am y digwyddiad.

Eglurodd bod y dyn wedi dod ar draws tri o bobl ifanc yn "poenydio" ci tua milltir a hanner ar hyd y llwybr i gyfeiriad Bae Colwyn.

Pan wnaeth y dyn ddychwelyd daeth wyneb yn wyneb a'r tri yn ogystal â phedwar arall ger y maes parcio.

Mae'r heddlu yn awyddus i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw yn lleol ar 101 neu yn ddienw drwy ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.