Snwcer: Buddugolieth i Matthew Stevens

Matthew Stevens Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe fydd Stevens yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yn yr ail rownd

Mae Matthew Stevens trwyddo i ail rownd Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.

Curodd Stevens Barry Hawkins o Loegr o bedair ffrâm i dair ar drydydd diwrnod y bencampwriaeth yng Nghasnewydd.

Fe fydd y Cymro yn herio'r Albanwr Stephen Maguire yn yr ail rownd brynhawn dydd Iau.

Fe fydd Ronnie O'Sullivan yn chwarae yn erbyn Mark Williams yn yr ail rownd.

Curodd y Sais Marco Fu o Hong Kong o bedair ffrâm i un ddydd Mercher.

Mae Williams wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith o'r blaen ac O'Sullivan enillodd y gystadleuaeth yn 2004 a 2005.

Fe fydd y rownd derfynol ddydd Sul.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 1

Ryan Day 0-4 Michael Holt (ddydd Llun)

Dominic Dale 2-4 Sam Baird (ddydd Llun)

Mark Williams 4-3 Andy Hicks (ddydd Mawrth)

Matthew Stevens4-3 Barry Hawkins (ddydd Mercher)

Rownd 2

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan

Matthew Stevensv Stephen Maguire

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.