Sgwatwyr yn colli apêl i aros mewn gwesty
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp sydd wedi meddiannu gwesty gwag yng nghanol Abertawe wedi colli apêl i gael aros yn yr adeilad ar ôl i farnwr ganiatáu gorchymyn meddiant dros dro ddydd Mawrth.
Bydd rhaid i grŵp Canolfan Gymunedol Cwtsh adael Gwesty'r Dolphin o fewn 24 awr i gyflwyno'r gorchymyn.
Roedd y grŵp am droi'r adeilad yn adnodd i'r gymuned ac eisoes wedi agor siop goffi.
Gwnaeth perchennog yr adeilad, y dyn busnes Altaf Nanji o Wlad yr Haf, gais i'r llys am orchymyn dros dro.
Dywedodd ei fargyfreithiwr Natasha Morgan wrth y llys fod Mr Nanji wedi cymryd y les ddiwedd y llynedd a'i fod wedi penodi asiantaeth eiddo i farchnata'r gwesty fel caffi.
Yn ôl Miss Morgan, roedd hynny'n costio tua £100,000 ac roedd Mr Nanji yn ceisio troi'r adeilad yn un masnachol.
Ychwanegodd fod y grŵp wedi "meddiannu'r adeilad yn anghyfreithlon" a bod gan ei chleient hawl i gymryd meddiant ar unwaith.
'Talu biliau'
Clywodd y llys fod y grŵp wedi mynd i mewn i'r gwesty yn oriau mân Ionawr 30 drwy ffenest uchel.
Dywedodd un o'u llefarwyr, D Murphy: "Fe wnaethon ni fynd mewn i'r adeilad yma yn gyfreithlon."
Ychwanegodd eu bod wedi agor cyfrifon dŵr a thrydan a'u bod yn bwriadu talu eu biliau.
Dros y pythefnos diwetha' mae'r grŵp wedi bod yn defnyddio'r gwesty 60-ystafell fel canolfan gymunedol.
Mae yna gaffi yn y cyntedd ac mae perfformiadau a gweithdai celf a cherddoriaeth wedi'u cynnal yno.
Dywedodd y barnwr cylchdaith Christopher Vosper QC fod nifer o lythyrau a deisebau yn cefnogi'r grŵp wedi'u cyflwyno i'r llys.
'Elwa'
"Heb amheuaeth, mae'r gymuned yn elwa ar y gwaith mae Canolfan Gymunedol Cwtsh yn ei wneud," meddai.
Ond eglurodd nad oedd y gyfraith yn caniatáu'r hawl i ddewis defnydd yr adeilad a bod Mr Nanji wedi dangos bod ganddo'r hawl i feddiannu'r adeilad ar unwaith.
Wrth siarad wedi'r gwrandawiad, dywedodd dyn a alwodd ei hun yn Barchedig Cymuned Cwtsh ei fod yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r grŵp adael y gwesty.
"Mae'n hynod siomedig, nid dyma oedden ni eisiau," ychwanegodd.
"Rhydd i bawb ei farn ond mae Cymuned Cwtsh yn un heddychlon ac rydym yn ufuddhau i'r gyfraith."
Dywedodd Mr Nanji nad oedd eisiau gwneud unrhyw sylw gan y byddai gwrandawiad llawn yn cael ei gynnal maes o law.