Canfod corff wedi tân mewn carafán yn Llangollen

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Cafwyd hyd i gorff dyn yn y garafán yn Llangollen

Cafodd corff ei ganfod ar ôl tân mewn carafán yn Llangollen.

Derbyniodd y gwasanaethau brys alwad ffôn am 11.11pm nos Lun i barc carafanau yn Ffordd Yr Abaty.

Aeth dau griw o Langollen a chriw o'r Waun i'r safle.

Cafwyd hyd i gorff dyn yn y garafán.

Credir ei fod yn ei 40au.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymchwilio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol