Mark Williams yn cyrraedd yr ail rownd

Ryan Day Image copyright Getty Images
Image caption Colli o bedair ffrâm i ddim wnaeth Ryan Day ar ddiwrnod cyntaf y bencampwriaeth

Ar ail ddiwrnod Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghasnewydd enillodd Mark Williams o bedair ffrâm i dair yn erbyn Andy Hicks o Loegr.

Fo yw'r cyntaf o'r Cymry i gyrraedd yr ail rownd. Bydd Williams, sydd wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith o'r blaen, yn wynebu enillydd y gêm rhwng Ronnie O'Sullivan a Marco Fu ddydd Mercher.

Dydd Llun collodd Ryan Day a Dominic Dale.

Bydd Matthew Stevens yn chwarae ddydd Mercher.

Fe fydd y rownd derfynol ddydd Sul.

Canlyniadau'r Cymry:

Rownd 1

Ryan Day 0-4 Michael Holt (Dydd Llun)

Dominic Dale 2-4 Sam Baird (Dydd Llun)

Mark Williams 4-3Andy Hicks (Dydd Mawrth)

Matthew Stevens v Barry Hawkins (Dydd Mercher)

Rownd 2

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan neu Marco Fu (Dydd Iau)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.