Abertawe 2-3 Norwich

Abertawe Image copyright Other

Fe wnaeth Abertawe golli gartref am yr eildro yn unig y tymor hwn.

Yr Elyrch aeth ar y blaen diolch i Danny Graham, ond mewn cyfnod o 18 munud ar ôl yr egwyl fe wnaeth Norwich sgorio tair gôl yn olynol.

Cyn hynny fe ddylai Graham wedi sgorio ei ail gôl - ond cafodd ei rwystro gan dacl gwych gan Elliott Ward.

Grant Holt ddaeth â'r ymwelwyr yn gyfartal, gydag ergyd Anthony Pilkington yn eu rhoi ar y blaen.

Roedd yna gôl arall i Holt cyn i Abertawe gael cic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm.

Sgoriodd Graham ond roedd hi'n rhy hwyr

Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Britton, Sinclair (Routledge -73), Dyer (Lita -73) , McEachran (Gower - 64' ) , Sigurdsson, Graham

Norwich: Ruddy, R Martin, Drury (Barnett - 57' ), Ward, Naughton, Surman, Pilkington, Fox, Bennett (Hoolahan - 76' ), Holt, Jackson (Morison - 83' )

Tabl yr Uwchgynghrair

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Man United 25 +36 58
2. Man City 24 +44 57
3. Tottenham 24 +19 50
4. Arsenal 25 +13 43
-----------------------------------------------------------------------------------------
11. ABERTAWE 25 -4 30

Chwefror 11, 2012.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.